Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg.

Rydym yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth am ddim i'r rhai sydd â chlefyd macwlaidd yng Nghymru, ynghyd â'u teulu a'u ffrindiau, i helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth.

Mae ein rheolwyr rhanbarthol sy'n byw yng Nghymru, a'r tîm yn Brif Swyddfa yn darparu ystod o wasanaethau a chefnogaeth i unrhyw un sy'n byw gyda chlefyd macwlaidd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau ar draws Cymru i ddarparu gwasanaethau lleol.

Ar y dudalen hon:

Cefnogaeth cymheiriaid

Grwpiau cefnogi gofalwyr

Mae ein tîm ar hyn o bryd yn cefnogi 33 o grwpiau wyneb yn wyneb ar draws Cymru a 4 dros y ffôn gyda chymorth eu gwirfoddolwyr. Mae ein grwpiau'n helpu pobl i ennill hyder a chael gwell dealltwriaeth o'u clefyd macwlaidd eu hunain.

I ddod o hyd i grŵp yng Nghymru ewch i dudalen gwe ein grwpiau cefnogi lleol neu gysylltu gyda'n tîm yng Nghymru (manylion cyswllt ar waelod y dudalen we hon).

Pobl Oedran Gwaith a Phobl Ifanc yng Nghymru

Mae pob un o'n grwpiau ar gyfer unrhyw un dros 18 oed. Mae pobl iau a phobl oedran gwaith yn aml yn hoffi dod at ei gilydd a rhannu cefnogaeth cymheiriaid a chlywed am gyngor a gwybodaeth benodol am lesiant, budd-daliadau, cyflogaeth a mynediad i waith. Os hoffech chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, gysylltu ag eraill sy'n rhannu'r diddordebau hyn, cysylltwch â thîm Cymru.

Fel arall, i ddarganfod mwy ewch i'n tudalen we Oedran Gweithio a Phobl Ifanc neu gysylltu gyda Colin Daniels ar 01603 937 449.

Grwpiau penodol i gyflwr ar-lein

Gall unrhyw un yng Nghymru hefyd ymuno â chymuned o bobl ar-lein sydd â'r un math o glefyd macwlaidd. Mae'r grwpiau ar-lein hyn sy'n benodol i gyflwr yn cynnwys:

  • Grŵp oedema macwlaidd diabetig
  • Grŵp dirywiad macwlaidd myopig
  • Dystroffi ffwndws Sorsby
  • Syndrom Charles Bonnet

Am ragor o wybodaeth am grwpiau cysylltwch â'r tîm Cyngor a Gwybodaeth ar 0300 3030 111.

Gwres y Gaeaf

Mae pob galwad yn para awr ac mae'n cynnwys trafodaethau diddorol ac adloniant gan bobl o wahanol feysydd. Maen nhw'n digwydd rhwng Tachwedd a Chwefror bob blwyddyn ac mae croeso i unrhyw un o bob rhan o'r DU ymuno â'r galwadau hyn. 

Freya's mum Anna facing the camera

"Roeddwn i'n teimlo wedi fy ynysu'n llwyr. Ond pan fyddwch chi'n dechrau ymchwilio mae yna gymunedau enfawr o bobl ar gael ar gyfer pob math o gyflyrau gwahanol. Felly roedd hynny'n hyfryd dros ben; roedd cael cwrdd â phobl eraill sy'n mynd drwy'r un profiad â chi yn dda iawn."

Anna

Gwasanaethau cefnogi mewnol

Cyngor a Gwybodaeth

Gall ein tîm o weithwyr proffesiynol cyfeillgar a gwybodus yn ein Pencadlys yn Lloegr ateb cwestiynau a darparu gwybodaeth a chyngor ar unrhyw agwedd o fyw gyda chlefyd macwlaidd. Er nad oes ganddyn nhw gymwysterau meddygol ac na allant roi cyngor meddygol, gallan nhw ddarparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor am ddim i unrhyw un sydd wedi'i effeithio gan golli golwg canol y maes, p'un ai chi yw'r person neu ffrind neu aelod o'r teulu.

Gwasanaeth Cwnsela

Mae gennym dîm o gynghorwyr cymwys sydd â phrofiad helaeth o fewn maes colli golwg, naill ai'n bersonol neu'n broffesiynol. Gwasanaeth dros y ffôn yw hwn i unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o glefyd macwlaidd. Rydym hefyd yn cynnig yr un gwasanaeth i aelodau teulu'r person, yn y DU neu'n rhyngwladol.

Mentora

Mae siarad gyda rhywun sydd wedi byw drwy rhai o'r anawsterau sy'n gysylltiedig â chlefyd macwlaidd yn gallu bod yn ddefnyddiol. Mae gan y Gymdeithas Facwlaidd 'fentoriaid' gwirfoddol sy'n gallu eich cynghori a'ch cefnogi oherwydd eu profiadau eu hunain o glefyd macwlaidd.

Cyfeillio

Gall ein gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn methu cyrraedd un o'n cyfarfodydd grwpiau cefnogi ond y byddech yn hoffi siarad gyda rhywun sydd â phrofiad o glefyd macwlaidd.

Cyfeillion Triniaeth

Mae cyfeillion triniaeth yn darparu cefnogaeth dros y ffôn i bobl sy'n bryderus ynghylch eu pigiadau, yn ogystal â rhoi gwybodaeth a chysur hefyd.

Sgiliau i Weld

Cyngor un-i-un ar sut i wneud y gorau o'r golwg sydd gennych er mwyn parhau i wneud y pethau rydych chi'n hoffi eu gwneud.  Cyfuno gwybodaeth ar olwg, chwyddhad, goleuo a thechnegau 'gweld ecsentrig' a 'strategaeth llygad cyson' lle mae hynny'n gweithio i chi.

Cysylltu drwy Dechnoleg

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cefnogaeth un-i-un dros y ffôn gyda'r dechnoleg rydych chi'n ei defnyddio o gwmpas eich cartref. Mae ein gwirfoddolwyr yn helpu aelodau'r Gymdeithas Facwlaidd i wneud y gorau o'u technoleg megis ffonau clyfar, tabledi, gliniaduron a chyfrifiaduron.

I gael gwybod mwy am unrhyw rai o'r gwasanaethau uchod, ewch i'n tudalen gwe Cefnogaeth i chi neu ffoniwch ein tîm Cyngor a Gwybodaeth ar 0300 3030 111 neu ffoniwch ein tîm yng Nghymru. Mae pob galwad yn gyfrinachol.

Gwasanaethau rhanbarthol

Sight Life

Yn darparu gwasanaethau lleol a chefnogaeth gydol oes er mwyn i bobl ddall a rhannol ddall ar draws y rhan fwyaf o Dde Cymru allu mwynhau bywydau llawn. 

Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru

Mae CDGC yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i bobl ddall a rhannol ddall o bob oedran ar draws Gogledd Cymru. Maen nhw'n gweithio i hybu annibyniaeth, dewis a hyder ac yn darparu'r gwasanaethau hanfodol y mae eu haelodau'n dweud sy'n bwysig iddyn nhw.

Sight Cymru

Yn darparu gwasanaethau a chefnogaeth i bobl â cholled golwg yn Ne a Gorllewin Cymru. (Sight Support gynt a chyn hynny Cymdeithas y Deillion Gwent.)

Vision Support

Mae Vision Support yn elusen uchel ei pharch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Maen nhw'n darparu gwasanaethau sy'n canoli ar y person sy'n cwrdd ag anghenion oedolion a phlant sydd â nam ar y golwg yn Siroedd Wrecsam, y Fflint, Dinbych a Chonwy.

Arbenigwyr Adferiad Golwg

Yn darparu asesiad, hyfforddiant a chyngor arbenigol i unigolion â nam ar y golwg i gynyddu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hannibyniaeth. I ddod o hyd i'ch Arbenigwr Adferiad lleol ewch i'r porth Gwybodaeth Persbectif.

Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid (ECLO)

Mae ECLO yn gweithredu fel pont bwysig rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac maen nhw'n ganolog i gefnogaeth a llesiant cleifion mewn clinigau llygaid. Maen nhw hefyd yn helpu i rwystro colli golwg gocheladwy drwy siarad am driniaethau a helpu pobl i ddeall eu meddyginiaeth os oes angen. I ddod o hyd i'ch Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid lleol ewch i'r porth Gwybodaeth Persbectif.

Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru

Os oes gennych chi nam ar y golwg neu olwg gwan yn barod, neu os ydych wedi eich cofrestru fel rhywun â nam ar y golwg neu nam difrifol ar y golwg gall Optegydd/Optometrydd achrededig sydd wedi'i hyfforddi'n benodol eich helpu i wneud y gorau o'r golwg sydd gennych chi. I ddod o hyd i'ch Optometrydd Golwg Gwan lleol defnyddiwch borth Gwybodaeth Persbectif Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru.

Digwyddiadau'r Gymdeithas Facwlaidd yng Nghymru

Digwyddiadau Gwybodaeth i Gleifion

Mae ein tîm yn datblygu ac yn rhedeg digwyddiadau ar gyfer y Gymdeithas Facwlaidd megis Digwyddiadau Gwybodaeth i Gleifion. Mae'r digwyddiadau hyn yn dod â chleifion at ei gilydd yn eu hardaloedd ynghyd â gweithwyr proffesiynol lleol gan roi cyfle i bobl holi clinigwyr, ECLO, nyrsys neu ROVI. Cysylltwch â thîm Cymru am ragor o wybodaeth. Mae'r tîm hefyd yn mynychu amryw o ddigwyddiadau a chynadleddau ar golli golwg ar draws Cymru.

Gweminarau My Macular and Me    

Bob mis mae'r Gymdeithas Facwlaidd hefyd yn cynnal dau weminar My Macular and Me i ddod â chi'n agosach at yr arbenigwyr a chlywed am y diweddaraf o ran triniaethau ac ymchwil. Gallu unrhyw un yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU ymuno â'r digwyddiadau hyn. I ddysgu mwy ewch i'n Tudalen we gweminarau neu ffoniwch ein tîm Cyngor a Gwybodaeth ar 0300 3030 111.

Cynhadledd Clefyd Macwlaidd

Mae ein Cynhadledd Flynyddol a'n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael eu cynnal ar-lein ac yn agored i bawb yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU. Mae'r digwyddiad yn cynnwys sesiynau penodol ar gyfer y rhai sydd â dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oed (AMD), clefydau retina etifeddol ac o oedran gwaith, ac mae sesiwn 'My Macular and Me' ar gyfer rhai sydd newydd gael diagnosis, eu teulu a'u ffrindiau. Mae'n gyfle i glywed am y datblygiadau diweddaraf ar driniaethau ac ymchwil. I gael gwybod mwy ewch i dudalen gwe ein Cynhadledd Clefyd Macwlaidd.

Gweithio gyda llunwyr polisi yng Nghymru

Fforwm Golwg Cymru

Pwrpas y Fforwm yw bod sefydliadau sy'n cynrychioli pobl sydd â cholled golwg yn dod at ei gilydd i rannu, trafod ac amlinellu rhaglenni gwaith a blaenoriaethau i wella cydweithio a lleihau dyblygu i wneud y gorau o'n cyrhaeddiad a'n heffaith ar y cyd.

Mae'r Fforwm yn blatfform i rannu gwybodaeth, arfer da ac arbenigedd yn ogystal ag ymgynghori ac adnabod cyfleoedd i gefnogi cynllunio gwasanaethau ac ymgyrchoedd.

Grwpiau Cydweithredol Gofal Llygaid

Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru Grŵp Cydweithredol Gofal Llygaid. Mae'r grwpiau hyn wedi cael eu sefydlu i fonitro perfformiad gwasanaethau gofal llygaid a'u nod yw gwrando a dysgu gan adborth a chanlyniadau cleifion. Mae gan Fforwm Golwg Cymru, sy'n cynnwys elusennau colli golwg lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru, gynrychiolwyr ar bob grŵp.

Grŵp Ymgynghorol Golwg Gwan

Is-grŵp yw hwn sy'n adrodd i Gydbwyllgor Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru. Swyddogaeth y Grŵp yw cynghori Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru (LVSW) gan roi sylw arbennig i osod a gwella'r safonau ar gyfer gwasanaeth golwg gwan o ansawdd uchel i unigolion o bob oed yng Nghymru.

Three supporters chatting and smiling

Aelodaeth o'r Gymdeithas Facwlaidd

Does dim rhaid i chi wyneb clefyd macwlaidd ar eich pen eich hun yng Nghymru; gall unrhyw un ymuno â'n cymuned yn y Gymdeithas Facwlaidd, a byddwn yn eich helpu chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod gyda chyngor a chefnogaeth arbenigol.

Am ragor o wybodaeth am aelodaeth gweler ein tudalen we Aelodaeth.

Group picture of some volunteers in yellow t-shirts

Gwirfoddoli yng Nghymru

Fyddai gennych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, ddiddordeb mewn gwirfoddoli i'r Gymdeithas Facwlaidd yng Nghymru? Cysylltwch â Thîm Cymru; mae gennym lu o gyfleoedd i chi ddewis o'u plith, felly ffoniwch ni a byddwn yn hapus i drafod ein holl rolau gyda chi.

Researcher in laboratory looking into microscope

Ymchwil y Gymdeithas Facwlaidd yng Nghymru

Rydyn ni eisiau cael gwared ar yr ofn a'r ynysu yn sgil clefyd macwlaidd i bawb yng Nghymru drwy gyllido ymchwil i ganfod triniaethau newydd a gwell, ac i ganfod gwellhad un diwrnod. Rydyn ni'n darparu gwybodaeth ar driniaethau newydd, ymchwil glinigol a llawer mwy.

I gael gwybod mwy ewch i'n Tudalen we Ymchwil.

Radia family step challenge

Codi arian yng Nghymru

Hoffech chi godi arian i helpu Curo Clefyd Macwlaidd yng Nghymru?  Byddwch yn helpu i gyllido ymchwil i ganfod gwellhad yn gynt ac i helpu cefnogi'r rhai sy'n byw gyda chlefyd macwlaidd heddiw. Fedrwn ni ddim gwneud hyn heboch chi, a gyda'n gilydd fedrwn ni ddim methu.

Mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan. Mae ein tîm codi arian cymunedol yma i'ch cefnogi holl ffordd. Gallwch gysylltu â'r tîm ar e-bost: community@macularsociety.org neu ffoniwch 01264 560 222.

 

Manylion cyswllt ar gyfer ein tîm yng Nghymru:

Adele Francis – Uwch Reolwr Rhanbarthol dros Gymru
Marian Williams – Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru

Ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â grwpiau, cysylltwch â groupsadmin@macularsociety.org neu ffoniwch 01264 560 259. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch ein Tîm Cyngor a Gwybodaeth ar 0300 3030 111.

I gysylltu â'r tîm yn LloegrGogledd Iwerddon, a'r Alban gweler y tudalennau perthnasol.

People laughing

Ein gwaith mewn rhanbarthau eraill

Rydym yn falch i fod â staff wedi'u lleoli o gwmpas y DU er mwyn rhoi cefnogaeth leol i chi; yn cynnwys rheolwyr rhanbarthol, cydlynwyr cefnogaeth cymheiriaid a thîm gweinyddu grwpiau sy'n gweithio o'n pencadlys yn Andover.

Friendly support

Cefnogaeth i chi

Rydym yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth am ddim i'r rhai sydd â chlefyd macwlaidd, ynghyd â'u teulu a'u ffrindiau, i helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth.

Community Fund Wales

Hoffem ddiolch i Gronfeydd Cymunedol y Loteri Genedlaethol a holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, am gefnogi ein gwasanaethau yng Nghymru, a'r Alban.